Byddwch yn hyderus eich bod yn rhoi’r arweiniad arian mwyaf effeithiol i’ch cwsmeriaid.
1. Mae angen i chi deimlo’n hyderus am yr arweiniad arian rydych yn ei ddarparu, a’r hyn nad ydych yn gyfforddus wrth ei ddarparu, yn ogystal â’r hyn sydd y tu hwnt i’ch rôl.
2. Lawrlwythwch y Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad ArianYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 966KB) ac argraffwch gopi o’r tabl ar dudalen pump. Defnyddiwch uwcholeuwr i ddewis unrhyw un o’r parthau technegol sy’n berthnasol i’ch rôl arweiniad arian. Yna, rhowch gylch o amgylch yr ardaloedd hoffech eu datblygu, ac efallai rhowch rif blaenoriaeth iddynt.
3. Cwestiynau i ofyn i’ch hun:
- Ydych chi am ddarparu arweiniad arian ehangach sy'n cynnwys mwy o barthau technegol?
- Ydych chi am arbenigo mewn unrhyw un o'r parthau technegol, neu mewn arweiniad arian mwy cymhleth?
- Beth yw'r meysydd pwysicaf i ddechrau gyda nhw?
- Pa hyfforddiant a datblygiad sydd ar gael a fydd yn eich helpu i symud i’r meysydd newydd hyn?
Peidiwch ag anghofio i ymuno â’r rhwydwaith Arweinwyr Arian am ddimYn agor mewn ffenestr newydd. Cofrestrwch heddiw os nad ydych wedi gwneud yn barod. Yna, gallwch ymuno ag unrhyw ddigwyddiad sy’n eich cefnogi yn eich rôl.