Byddwch yn hyderus eich bod yn gofalu am eich lles eich hun yn y gwaith wrth roi arweiniad arian. Neu adeiladwch ar yr hyn rydych yn gwybod yn barod os yw hwn yn faes lle rydych yn gryf.
Ansicr o beth i’w wneud nesaf? Rydym yn argymell gweithio trwy’r dudalen yn llawn, gan ddechrau gydag Ansicr o’ch lles yn y gwaith. Mae’r cyfan yn ddefnyddiol.
1. Mae darparu arweiniad arian o safon yn ymwneud gymaint â gofalu am eich lles eich hun ag ydyw am gefnogi anghenion eich cwsmeriaid. Gwyliwch y fideo hwn, i ddysgu sut i sicrhau nad ydych chi'n esgeuluso'ch hun wrth helpu eraill.
Gwyliwch y fideo: Pwysigrwydd hunanofal.
2. Defnyddiwch bolisïau ac ymarferion lles staff eich sefydliad, a pheidiwch â bod ofn i ddefnyddio gwasanaethau cwnsela am ddim ar gyfer achosion cymhleth neu drawmatig rydych yn eu cefnogi.
3. Darllenwch yr awgrymiadau hyn gan ymarferwyr arweiniad arian. Efallai bydd rhai yn gweithio i chi:
- dadlwythwch i gydweithiwr am sefyllfa anodd gan y gall hwn helpu i wneud pethau'n gliriach
- ewch i ffwrdd o'r ddesg, p'un a yw hynny am goffi cyflym neu i fynd am dro
- treuliwch ychydig eiliadau yn anadlu'n ddwfn ac yn canolbwyntio ar ymlacio
- gwnewch nodyn o’ch meddyliau a'ch teimladau ar ddiwedd y dydd, efallai y bydd mewnwelediad defnyddiol i chi.
1. Efallai na fyddwch bob amser yn teimlo ar ben pethau, felly mae'n werth cymryd eiliad i weld sut mae gweithgareddau myfyriol wedi helpu ymarferwyr arweiniad arian eraill a'u cwsmeriaid.
Gwyliwch y fideo: Gwerth myfyrio.
2. Helpwch i ddatblygu diwylliant gweithle o siarad gyda chydweithwyr ar ôl profiadau anodd gyda chwsmeriaid.
Gall fod yn ddefnyddiol i chi a’ch cydweithwyr i rannu eich profiadau arweiniad arian, gan ei fod yn cyfrannu i wybodaeth a dealltwriaeth gyfunol. Efallai byddwch yn gwneud hwn yn anffurfiol gyda chydweithiwr, mewn grŵp, neu drwy sgyrsiau mwy strwythuredig, fel ôl-drafodaethau gydag aelod o’r tîm, mewn sesiwn goruchwylio, neu gyda’ch rheolwr.
3. Rhannwch eich awgrymiadau a strategaethau hunanofal fel rhan o’r rhwydwaith cymuned Arweinwyr Arian a gweld sut mae eraill yn gofalu am eu lles.
2. Helpwch i ddatblygu diwylliant gweithle o siarad gyda chydweithwyr ar ôl profiadau anodd gyda chwsmeriaid.
Gall fod yn ddefnyddiol i chi a’ch cydweithwyr i rannu eich profiadau arweiniad arian, gan ei fod yn cyfrannu i wybodaeth a dealltwriaeth gyfunol. Efallai byddwch yn gwneud hwn yn anffurfiol gyda chydweithiwr, mewn grŵp, neu drwy sgyrsiau mwy strwythuredig, fel ôl-drafodaethau gydag aelod o’r tîm, mewn sesiwn goruchwylio, neu gyda’ch rheolwr.
3. Rhannwch eich awgrymiadau a strategaethau hunanofal fel rhan o’r rhwydwaith cymuned Arweinwyr Ariana gweld sut mae eraill yn gofalu am eu lles.
Peidiwch ag anghofio i ymuno â’r rhwydwaith Arweinwyr Arian am ddim. Cofrestrwch heddiw os nad ydych wedi gwneud yn barod. Yna, gallwch ymuno ag unrhyw ddigwyddiad sy’n eich cefnogi yn eich rôl.
Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian yn gosod meincnodau clir, ac yn diffinio arweiniad arian a’r ffin gyda chyngor rheoledig.