Eich cefnogi wrth: gyfeirio cwsmeriaid

Byddwch yn hyderus o’ch ffynonellau o wybodaeth arweiniad arian diduedd ac wrth gyfeirio cwsmeriaid i rywle arall. Neu adeiladwch ar yr hyn rydych yn gwybod yn barod os yw hwn yn faes lle rydych yn gryf.

Sut i ddefnyddio’r dudalen cymorth hon

  • Rhowch nod tudalen i’r dudalen hon fel y gallwch ddod yn ôl iddi ar unrhyw adeg.
  • Os yw hwn yn faes i chi ganolbwyntio arno, dechreuwch gydag Ansicr wrth gyfeirio
  • Os yw hwn yn faes lle rydych yn gryf, ewch i Hyderus wrth gyfeirio

Ansicr o beth i’w wneud nesaf? Rydym yn argymell gweithio trwy’r dudalen yn llawn, gan ddechrau gydag Ansicr wrth gyfeirio. Mae’r cyfan yn ddefnyddiol.

Ansicr wrth gyfeirio - hybu’ch gwybodaeth

  1. Am arweiniad arian, mae ‘cyfeirio’ yn meddwl rhoi manylion sylfaenol i’ch cwsmeriaid am ffynhonnell, fel gwefan, neu wasanaeth sy’n berthnasol i’w cais am help. Yna mae i fyny i’r cwsmer i weithredu.
    Dylai cyfeirio fod yn help cyfredol a diduedd bob tro. Adolygwch Sylfaen E: Cyfeirio cwsmeriaid.
  2. Gwiriwch a oes gan eich sefydliad bolisi mewn lle, megis cyfeirio at wefan eich sefydliad, neu sefydliadau lleol neu genedlaethol eraill.
  3. Efallai byddwch am ddefnyddio ein gwefan HelpwrArian am wybodaeth ddiduedd ac am ddimYn agor mewn ffenestr newydd ar arian, sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth ac sy’n cael ei ddiweddaru’n barhaol.
    Mae HelpwrArian yn darparu teclynnau ar-lein, cyfrifianellau a threfnwyr, a dolenni i wasanaethau cymorth. Mae’n syniad da i gadw’ch holl nodau tudalen mewn ffolder sengl i’w wneud yn haws i ailymweld â nhw.

Am fwy, gwyliwch y fideo hwn: Archwilio gwefan HelpwrArian.

Hyderus wrth gyfeirio - adeiladu ar eich cryfder

  1. Adolygwch y lleoedd gallwch gyfeirio cwsmeriaid iddynt a gwiriwch sut mae’ch rhestr yn cael ei chadw’n gyfredol. A yw’ch cydweithwyr i gyd yn defnyddio’r un rhestr?
  2. Efallai byddwch am ddefnyddio ein gwefan HelpwrArian am wybodaeth ddiduedd, teclynnau a dolenniYn agor mewn ffenestr newydd. Mae’n cael ei chefnogi gan y llywodraeth ac mae am ddim i’w defnyddio.
  3. Rydych chi a’ch sefydliad yn debygol o wneud atgyfeiriadau ffurfiol hefyd mewn sefyllfaoedd dan bwysau. Os ydych yn cysylltu â sefydliad arall ar ran eich cwsmeriaid, y peth gorau yw gwirio a ydych yn dilyn y polisïau a gweithdrefnau mewnol.
  4. Ydy eich polisïau a gweithdrefnau mewnol yn cynnwys yr holl gyfleoedd i wneud atgyfeiriadau? Gallwch ddefnyddio’r rhestr wirio isod i’ch helpu i adolygu hwn.

Rhestr wirio cyfeirio

Yn dibynnu ar gwmpas eich rôl, efallai y bydd yn addas i wneud atgyfeiriad, gan gynnwys o fewn eich sefydliad, pan fydd cwsmer:

  • Yn cael problemau dyled sydd angen cymorth yn syth.
  • Yn wynebu achos llys, fel ar fater treth neu fudd-dal.
  • Yn edrych am help i ddelio ag anghydfod neu gŵyn am gynnyrch neu ddarparwr (nid dim ond yn edrych am wybodaeth am sut i gwyno).
  • Yn dymuno caffael, amrywio, neu waredu cynnyrch, gan gynnwys. gwneud cais am fudd-dal a chredydau treth.
  • Angen cyngor ariannol, dyled, neu gyfreithiol rheoledig.
  • Angen gwybodaeth ddyfnach nad ydych wedi’ch hyfforddi i’w darparu.