Byddwch yn gyfforddus wrth siarad â chwsmeriaid am eu hanghenion, ac yn hyderus wrth eu helpu i reoli eu harian yn well. Neu adeiladwch ar yr hyn rydych yn gwybod yn barod os yw hwn yn faes lle rydych yn gryf.
Ansicr o beth i’w wneud nesaf? Rydym yn argymell gweithio trwy’r dudalen yn llawn, gan ddechrau gydag Ansicr am feithrin perthnasoedd. Mae’r cyfan yn ddefnyddiol.
1. Wrth gefnogi eich cwsmeriaid, byddwch yn defnyddio llawer o sgiliau a rhinweddau personol sydd yr un mor bwysig i arweiniad arian ag agweddau eraill o’ch rôl.
Clywch gan eraill sy’n rhoi arweiniad arian ar y priodoleddau maent yn dod â nhw i’r rôl, ac sut mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y help maent yn ei ddarparu.
Gwyliwch y fideo: Pam mae rhinweddau personol yn bwysig.
2. Cymerwch amser i fyfyrio ar beth gwnaethoch ei glywed yn y fideo (cam 1). Beth ddywedodd eraill am helpu eu cwsmeriaid i deimlo’n ddiogel a chyfforddus? Sut roedden nhw’n gwneud i bobl a oedd yn fregus deimlo’n gyfforddus i fynd atynt?
3. Darllenwch y Fframwaith Cymhwysedd am ddisgrifiadau clir o’r rhinweddau a phriodoleddau sylfaenol sydd eu hangen i roi arweiniad arian, ac os gall hyfforddiant eich helpu gyda hwn.
Ewch i’r Fframwaith: Sylfaen A: Rhinweddau a phriodoleddau personol.
1. Clywch gan eraill sy’n rhoi arweiniad arian i gwsmeriaid sy’n wynebu sefyllfaoedd anodd, a pha mor bwysig yw eu sgiliau a rhinweddau personol wrth wneud i’r bobl maent yn eu helpu i deimlo’n ddiogel a chyfforddus.
Gwyliwch y fideo: Pwy yw eich cwsmer?
2. Meithrin cydberthynas yw un o’r chwech o sgiliau a rhinweddau sylfaenol sydd eu hangen i roi arweiniad. Y gweddill yw: Uniondeb personol, Hunanymwybyddiaeth, Didueddrwydd, Diplomyddiaeth a Hyblygrwydd. Darllenwch ein fframwaith am ddisgrifiadau o bob un ac ystyriwch a oes unrhyw ardaloedd y gellid eu gwella. Efallai byddwch am ganolbwyntio ar rhinwedd penodol.
Ewch i’r fframwaith: Sylfaen A: Rhinweddau a phriodoleddau personol.
3. Rhannwch eich mewnwelediadau yn Hwb Cymuned yr Arweinwyr Arian, a chlywch gan eraill am eu dysgu yn y gweithle. Efallai bydd rhain yn eich helpu yn eich rôl.
Ewch i Hwb Cymuned Arweinwyr ArianYn agor mewn ffenestr newydd
Peidiwch ag anghofio i ymuno â’r rhwydwaith Arweinwyr Arian am ddimYn agor mewn ffenestr newydd. Cofrestrwch heddiw os nad ydych wedi gwneud yn barod. Yna, gallwch ymuno ag unrhyw ddigwyddiad sy’n eich cefnogi yn eich rôl.
Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian yn gosod meincnodau clir, ac yn diffinio arweiniad arian a’r ffin gyda chyngor rheoledig.