Byddwch yn hyderus eich bod yn rhoi arweiniad arian bob tro i’ch cwsmeriaid, ac nad yw byth yn gyngor. Neu, adeiladwch ar yr hyn rydych yn gwybod yn barod os yw hwn yn faes lle rydych yn gryf.
Ansicr o beth i’w wneud nesaf? Rydym yn argymell gweithio trwy’r dudalen yn llawn, gan ddechrau gydag Ansicr am y ffiniau. Mae’r cyfan yn ddefnyddiol.
Mae hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw reoliadau yn y meysydd mae eich sgyrsiau arian yn cyffwrdd arnynt, megis dyled, pensiynau a buddsoddiadau.
O ran sgyrsiau arian, mae rhoi ‘cyngor’ yn weithgaredd rheoledig. Dim ond cwmnïau sy'n cael eu rheoleiddio gan yr FCA sy'n gallu cynnig hyn. Wrth roi arweiniad arian, ni ddylech fyth ddarparu argymhellion personol ar gyfer cynhyrchion ariannol, neu argymhellion ar gam penodol o weithredu. Fodd bynnag, mae angen i ymarferwyr arweiniad arian fod â gwybodaeth gyffredinol ac eang o'r ystod o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol sydd ar gael yn y farchnad. | |
Mae arweiniad yn wasanaeth diduedd sy’n helpu cwsmeriaid i adnabod eu hopsiynau a chulhau eu dewisiadau, ond ni fydd yn dweud wrthynt beth i’w wneud neu ba gynnyrch i’w brynu – eu penderfyniad nhw yw hynny. | |
Mae darparwyr arweiniad yn gyfrifol am gywirdeb ac ansawdd y wybodaeth maent yn ei darparu, ond nid am unrhyw benderfyniad sy’n cael ei wneud ar sail honno. | |
Mae arweiniad am ddim oni bai bod y darparwr yn nodi’n wahanol yn glir. | |
Bydd arweiniad yn argymell beth gallwch ei wneud. |
Mae cyngor yn argymell cynnyrch neu weithred benodol i gwsmer ei gymryd yn seiliedig ar ei amgylchiadau a nodau ariannol. Bydd hwn yn bersonol, a'n seiliedig ar wybodaeth sydd wedi'i ddarparu. | |
Caiff gyngor ei ddarparu gan unigolyn cymwysedig a rheoledig neu ar-lein gan sefydliad rheoledig. | |
Mae darparwyr cyngor yn gyfrifol ac yn atebol am gywirdeb, ansawdd ac addasrwydd yr argymhellion maent yn eu gwneud, gyda chwsmeriaid wedi’u hamddiffyn gan y gyfraith. | |
Bydd cyngor yn argymell beth dylech ei wneud. |
Peidiwch ag anghofio i ymuno â’r rhwydwaith Arweinwyr Arian am ddimYn agor mewn ffenestr newydd. Cofrestrwch heddiw os nad ydych wedi gwneud yn barod. Yna, gallwch ymuno ag unrhyw ddigwyddiad sy’n eich cefnogi yn eich rôl.
Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian yn gosod meincnodau clir, ac yn diffinio arweiniad arian a’r ffin gyda cyngor rheoledig.