Cael y newyddion diweddaraf ar y Strategaeth ac ymunwch yn y sgwrs yn yr hashnod #LlesAriannolynyDU.

Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol
Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi bod yn gwrando ar ein rhanddeiliaid a datblygu Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol newydd, sydd wedi’i gynllunio i yrru newid yn gyflym a symud y deialau ar gyllid personol.
Mae Strategaeth y DU yn fframwaith deng mlynedd a fydd yn helpu i gwrdd â’r weledigaeth o bawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a phensiynau.
Bydd MaPS yn chwarae rhan allweddol i gwrdd â’r weledigaeth yma, drwy gefnogi a gweithio gyda ystod eang o sefydliadau eraill a drwy gyflwyno gwasanaethau ble fo’n addas.
Themau allweddol yn y strategaeth

Mae’r strategaeth yn nodi nifer fechan o themau mawr i ymgysylltu ac ysgogi nifer fawr o randdeiliaid. Mae’n canolbwyntio ar nodau mesuriadwy sy’n anelu at ddod â buddion i unigolion, eu cymunedau a’r gymdeithas ehangach.
Sut i gymryd rhan
Bydd y strategaeth dim ond trwy gydweithredu a phartneriaeth â sefydliadau ar draws y Llywodraeth, y trydydd sector, addysgwyr, defnyddwyr, gwasanaethau ariannol, cyflogwyr ac eraill y bydd y strategaeth yn cyflawni ei gweledigaeth uchelgeisiol. Os ydych yn rhan o un o’r sectorau hyn – neu os ydych am wella lles ariannol unigolion, cymunedau, busnes a’r economi – lawrlwythwch y strategaeth a darganfyddwch sut y gallwch gymryd rhan.
Lawrlwythwch eich copi o’r strategaeth
Sut y ffurfiwyd y strategaeth
Fe wnaethom gynnal Cyfnod Gwrando am bedwar mis, gan ymgysylltu â dros 1,000 o randdeiliaid mewn lleoliadau ledled y DU ar yr hyn yr hoffent ein gweld yn canolbwyntio arno. Helpodd yr adborth hwn i lunio’r Strategaeth.
Dysgwch fwy am y Cyfnod Gwrando